Prynu eich bws mini eich hun

Os yw eich grŵp cymunedol yn meddwl am godi arian i brynu ei fws mini ei hun, byddem yn eich annog i feddwl yn ofalus iawn. Mae bysiau mini yn gostus i'w prynu, eu rhedeg ac i brynu rhai newydd, ac mae'r ffynonellau ariannu yn brin. Mae'n bwysig hefyd eich bod yn deall materion fel yswiriant, cynnal a chadw a materion cyfreithiol.

Efallai y gellid diwallu eich anghenion cludiant yn fwy cost effeithiol trwy ddefnyddio bws mini cymunedol sydd ar gael yn barod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y gwele hwn.

Os ydych yn dal yn awyddus i brynu eich bws mini eich hun, mae cyngor ar gael oddi wrth:

Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro, Swyddog Datblygu Cludiant Cymunedol:
Ffôn: 01437 776550.

Efallai hefyd yr hoffech ymuno ã'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol genedlaethol, sy'n cynnal llinell cyngor rhad ac am ddim ar gyfer ei haelodau. Gallwch gysylltu â'u Swyddfa Cymru ar:
Ffôn: 01792 844 290

Share this page...

Current Volunteering Opportunities