Galw am Fws i Arberth
Os oes gyda chi Gerdyn Teithio Rhatach yna cewch deithio AM DDIM Neu gallwch dalu’r pris teithio llawn os nad oes cerdyn teithio ’da chi
Yn Cyrraedd Arberth am 10.50am
Bydd yn gadael Arberth am 12.15pm &
4.15pm ar Ddyddiau Mawrth, Mercher a Gwener
Amserlen y Gwasanaeth Galw’r Gyrrwr i Arberth
Beth yw’r Galw am Fws?
Gwasanaeth bws o ddrws i ddrws i’r holl gymuned yw Galw Bws yn bennaf. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc a’r henoed a chafodd ei lunio ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu defnyddio bysiau confensiynol a chymunedau â chludiant cyhoeddus sy’n gweithredu yn anaml.
Rydych chi’n archebu eich lle ar y bws, mae’r bws yn dod at eich drws ac yn mynd â chi i ba le bynnag yr ydych eisiau mynd yn yr ardal Arberth.
Mae Galw Bws wedi cael ei ddarparu yn arbennig i’ch helpu chi. Os nad ydych yn gallu mynd lan a lawr y grisiau, neu os ydych yn defnyddio cadair olwyn, gallwch chi ddefnyddio’r lifft i’ch helpu chi i fynd ar ac oddi ar y bws yn rhwydd. Bydd y gyrrwr yn rhoi pob cymorth i chi, ac ni fyddant yn gwneud i chi frysio chwaith.
Sut ydw i’n cadw lle ar y bws?
Ffoniwch y swyddfa ar Radffon
0800 7831584
erbyn 12 o’r gloch ar y diwrnod cyn y byddwch
eisiau teithio
Ar ben hynny mae amserlen Galw Bws yn gadael i chi gysylltu â’r gwasanaeth bws rhif 381 i Hwlffordd a Chilgeti / Dinbych-y-pysgod. I gael gwybodaeth am amseroedd a phrisiau teithio’r bysiau gallwch ffonio Silcox Coaches ar: 01646 683143