Cynlluniau Ceir

Ceir Gwledig Sir Benfro

A ydych yn dymuno dal ati i fod yn rhydd i weithredu fel y mynnoch?
A yw cludiant cymunedol yn peri anhawster mawr ichi?

Yna mae Ceir Cefn Gwlad yn cael eu darparu ar gyfer unrhyw drigolion yn Sir Benfro sydd heb gar i’w ddefnyddio ac sy’n cael anhawster defnyddio cludiant cyhoeddus neu sy’n byw rhywle nad yw’n cael gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn aml.

Cliciwch man hyn am ragor o wybodaeth

 


Ceir ar gyfer Cynhalwyr

Sylw i Ofalwyr Di-dâl
Mae Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro (PACTO) wedi derbyn cyllid gan Gyngor Sir Penfro i wella gwasanaethau cludiant cymunedol i ofalwyr di-dâl yn Sir Benfro dros y flwyddyn i ddod.
Mae’n bleser gennym gadarnhau, o 1 Gorffennaf 2023, y bydd gofalwyr di-dâl yn teithio am ddim ar wasanaeth Ceir Cefn Gwlad Sir Benfro, pan fyddant yn teithio gyda’r person y maent yn gofalu amdano.
Bydd gan ofalwyr di-dâl hefyd hawl i deithiau ychwanegol ar y gwasanaeth, sydd fel arfer yn gyfyngedig i un daith yr wythnos.
Mae Ceir Cefn Gwlad Sir Benfro yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Simon Rickard ar 07585 997091 neu pembshub@royalvoluntaryservice.org.uk neu ewch i https://www.pacto.org.uk/country_cars.php  .
Sylwch, bydd angen i Ofalwyr ddangos Cerdyn Cydnabod Gofalwr Sir Benfro dilys i gael budd o'r cynnig hwn. https://www.pembrokeshire.gov.uk/…/council-passes ...
Mae PACTO hefyd yn archwilio cyfleoedd i wella gwybodaeth i ofalwyr am ddewisiadau trafnidiaeth yn Sir Benfro, ac i helpu gydag anghenion cludiant Gofalwyr Ifanc.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Cliciwch man hyn am ragor o wybodaeth


Ceir Hygyrch i Gadair Olwyn – Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro

A oes gyda chi ffrind neu berthynas sy’n defnyddio cadair olwyn, sydd heb gar hygyrch ei hunan?
A hoffech chi fynd â hwy ar hyd y fan, neu fynd â hwy i ddigwyddiad teuluol pwysig?

Mae gyda ni fflyd fechan o geir hygyrch i gadair olwyn, i’w llogi am gyfnod byr, ar sail gyrru’ch hunan (o awr neu ddwy hyd at ychydig ddyddiau).

Cliciwch man hyn am ragor o wybodaeth

Pembrokeshire Intermediate Voluntary Organisations Team

Bydd PIVOT yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu cynllun gweithredu sy’n canolbwyntio ar unigolion er mwyn cyflawni canlyniadau a gytunir a fydd yn gwneud gwahaniaeth o ddifrif. Mae hyn yn cynnwys Mentrau Diogel ac Iach fel:

  • Trafnidiaeth a setlo yn y cartref ar gyfer pobl sydd mewn perygl o gael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd nad oes modd gyda nhw i fynd adref. (Nid yw hyn yn cynnwys gofal personol).
  • Cyfeirio, eiriolaeth lefel isel ac atgyfeirio at asiantaethau priodol er mwyn cael rhagor o gymorth a chefnogaeth yn cynnwys gwasanaethau eraill trydydd sector, iechyd a statudol.
  • Gallu defnyddio gwasanaeth ymateb cyflym ar gyfer addasiadau bach yn y cartref a gwiriadau diogelwch yn y cartref.

Cliciwch man hyn am ragor o wybodaeth

Share this page...

Cyfleoedd Gwirfoddoli ar hyn o bryd