Y Print Mân

 

Mae Bysiau Mini Cymunedol ac Awdurdodau Lleol yn cael eu rhedeg trwy hawlebau Adran 19, sy'n caniatáu i fysiau bychain gael eu defnyddio trwy drefniant dielw at ddibenion penodol. Gellir eu darparu ar gyfer grwpiau eraill, a fyddai'n cael defnyddio'r cerbyd o fewn amodau yr Hawleb.

 

Nid yw busnesau, megis cartrefi nyrsio preifat neu ofal plant, gwestai, atyniadau i ymwelwyr, siopau neu unrhyw sefydliad masnachol arall yn cael llogi bysiau mini trwy'r hawleb Adran 19. Dylech gysylltu â'ch cwmni llogi bysiau mini preifat lleol.

 

Mae rhai bysiau mini sydd wedi'u haddasu ar gyfer cadeiriau olwyn, e.e. y rhai hynny sy'n eiddo i adran Gofal Cymdeithasol y Cyngor, wedi eu cofrestru fel "Ambiwlans". Mae defnyddio'r cerbydau hyn wedi ei gyfyngu i grwpiau sydd ag aelodau sy'n gyfyngedig o ran eu gallu i symud, e.e. pobl anabl neu'r henoed.

 

Yn gyffredinol, mae cynlluniau Bysiau Mini Cymunedol yn disgwyl i grwpiau ymaelodi â'u cynllun er mwyn gwneud defnydd o'u bws mini. Codir tâl tanysgrifio bychan.

 

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am Amodau a Thelerau cludiant ar gyfer grwpiau oddi wrth y cwmni bysiau mini.

 

Share this page...

Cyfleoedd Gwirfoddoli ar hyn o bryd