Ynglŷn â PACTO
Sefydlwyd Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro (PACTO) yn 2004, i gasglu at ei gilydd, cryfhau a chynrychioli'r sector cludiant cymunedol yn Sir Benfro.
Mae'r Gwasanaethau Cludiant Cymunedol yn cynorthwyo pobl a grwpiau nad ydynt yn cael y cyfle i ddefnyddio cludiant personol ac sydd heb neu'n methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus arferol.
Ymhlith aelodau gweithgar PACTO mae:
- Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro
- Royal Voluntary Service Ceir Gwledig Sir Benfro
- Volunteering Matters Ceir ar gyfer Cynhalwyr
- Cymdeithas Cludiant Cymunedol Maenorbŷr
- Bws Y Draig Werdd - Cymdeithas Cludiant Gwledig y Preseli
- Cymdeithas Gymunedol a Chwaraeon Arberth a'r Cylch (sy'n rhedeg Bws Bloomfield)
- Rev Cymru
Blaenoriaethau
Yn ein cynllun gwaith cyfredol mae’r blaenoriaethau canlynol:
- Cyflawni rhwydwaith cynhwysfawr a chynaliadwy o gyfleusterau cludiant cymunedol fforddiadwy ac o safon, o fewn cyrraedd pawb, sy’n adnabyddus ac sydd a defnydd mawr arno gan bobl Sir Benfro.
- Galluogi i aelodau mwyaf oedrannus, anabl ac arunig ein cymuned gyrraedd gwasanaethau a chyfleoedd.
- Creu trefn i hwyluso rhannu lifftiau ledled Sir Benfro wledig, gan leihau costau perchenogion ceir a rhoi mynediad at wasanaethau, gweithgareddau a chyfleoedd i gymunedau, ddydd a nos, a fyddai allan o gyrraedd fel arall.
- Darparu cludiant o’r ysbyty a setlo gartref, i bobl sydd mewn perygl o fynd i’r ysbyty oherwydd nad oes ganddynt unrhyw ffordd o fynd adref.
Am ragor o wybodaeth, byddwch cystal â chysylltu â'r Swyddog Datblygu Cludiant Cymunedol:
Ffôn: 01437 701123.