Gwirfoddoli ar gyfer Ceir Cefn Gwlad Sir Benfro
Os oes gyda chi ddiwrnod neu ddau, neu hyd yn oed ambell awr i'w chynnig ddwywaith yr wythnos, yna GALLWCH CHI HELPU.
Mae gwirfoddolwr yn werthfawr
Mae gwirfoddolwr yn glodwiw
Mae gwirfoddolwr yn uchel ei barch
Mae gwirfoddolwr yn berson mawr ei ofal,
Ydych chi'n UN o'r bobl hyn?
Gyrwyr Gwirfoddol
Yn sgil llwyddiant Cynllun Ceir Gwledig Sir Benfro rydyn ni'n chwilio am yrwyr gwirfoddol i rannu'r gwaith o yrru ein ceir sydd wedi eu haddasu'n arbennig ar gyfer cludo cadeiriau olwyn neu i yrru eich car eich hun.
Y cyfan sydd ei angen arnoch ydyw trwydded yrru safonol, rhywfaint o amser sbâr ac awydd i helpu.
Rydyn ni'n ad-dalu costau teithio ac unrhyw dreuliau eraill. Mae pob un sy'n gyrru ein ceir hygyrch yn derbyn arweiniad ynglŷn â llwytho a sicrhau y cadeiriau olwyn yn y car.
Cydlynydd Gwirfoddol
Rydym yn chwilio am wirfoddolwr i gydlynu ein tîm o yrwyr sy’n gyrru ceir hygyrch i gadair olwyn.
I gael rhagor o wybodaeth am y ddau beth uchod, byddwch cystal â ffonio Ceir Cefn Gwlad y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol a Cheir Hygyrch i Gadair Olwyn – Penny Curtis – ar 01348 875399
Cynorthwyo pobl i fynd adref o’r ysbyty
Mae’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer gwasanaeth cludiant newydd sbon sy’n cynorthwyo pobl i fynd adref o’r ysbyty a sicrhau eu bod yn ddiogel a chyfforddus ar ôl iddynt gyrraedd eu haelwyd. Rydym yn gobeithio sefydlu tîm o wirfoddolwyr sy’n byw o fewn 15 milltir i Ysbyty’r Llwyn Helyg, pobl sy’n fodlon rhoi o’u hamser yn y prynhawniau, gyda’r nos neu yn ystod y penwythnos. Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn bydd y gwirfoddolwyr yn gweithio mewn deuoedd, felly beth am ichi fynd ati i wneud hynny ar y cyd â pherthynas neu ffrind. Wedyn gallech wirfoddoli gyda’ch gilydd!
Er mwyn cymryd rhan neu gael rhagor o wybodaeth, cofiwch ffonio
Sarah Evans ar 07436 583575.