Hafan  |  
  Gwasanaethau  |  
  Cysylltu â Ni   |  
  Adnoddau   |  

Hwb o bron i £1 miliwn ar gyfer Trafnidiaeth Gymunedol yn Sir Benfro

Mae Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro (PACTO) yn dathlu bron i £1 miliwn o grant tair blynedd gan Sefydliad Motability i drawsnewid trafnidiaeth gymunedol yn Sir Benfro.

Tim y prosiect

Capsiwn y Llun: Tîm y prosiect (o'r Chwith i'r Dde), Wyndham Williams, Rheolwr y Prosiect; Damian Golden, Cydlynydd Ceir Hygyrch; Jo Hicks, Cysylltydd Trafnidiaeth; Ruby Woods, Cysylltydd Trafnidiaeth.

* * * *

Ar hyn o bryd mae gwasanaethau cludiant cymunedol yn Sir Benfro yn darparu 45,000 o deithiau'r flwyddyn i 1400 o bobl a fyddai fel arall yn cael trafferth gyda chludiant. Fodd bynnag, mae gwasanaethau wedi datblygu'n organig dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf, gyda chyllid prosiect tameidiog yn arwain at glytwaith o wasanaethau a gweithredwyr. Mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfle prin i adolygu ac ail-lunio’r sector trafnidiaeth gymunedol yn Sir Benfro i fod yn fwy gwydn, cael llywodraethu cryfach, rhannu adnoddau’n fwy effeithiol, a darparu set o wasanaethau mwy cydlynol a llai tameidiog i bobl â phroblemau symudedd.

Bydd y cyllid yn darparu ar gyfer pum car sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn a phedwar bws mini sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, i ddisodli ac ehangu'r fflyd trafnidiaeth gymunedol a chostau rhedeg gwasanaethau.

Amcanion y prosiect yw:

  • Datblygu model wedi'i ddiffinio'n glir ar gyfer darparu gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn Sir Benfro, sy'n dangos cydgysylltu'r adnoddau sydd gennym yn well, ac sy'n diwallu anghenion teithwyr yn well.
  • Cefnogi o leiaf 500 o deithwyr i ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn Sir Benfro am y tro cyntaf.
  • Treblu nifer y teithiau gan deithwyr mewn car sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn dros gyfnod o dair blynedd.
  • Cynyddu nifer y teithiau gan deithwyr ar wasanaethau galw a theithio 50% dros gyfnod o dair blynedd.
  • Ymgorffori cymorth teithio a meithrin hyder ar gyfer pobl ag anghenion symudedd ychwanegol o fewn Hyb Cymunedol Sir Benfro, gan gefnogi o leiaf 300 o bobl erbyn diwedd y prosiect.
Meddai Lisa Jones, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Elusennol Sefydliad Motability, ar y dyfarniad grant: “Rydym yn falch iawn o ddyfarnu’r grant hwn i Gymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro (PACTO) i ehangu gwasanaethau trafnidiaeth ar draws y Sir, fel bod pobl anabl a pobl â phroblemau symudedd yn cael mwy o gyfle i deithio.
 
“Gall y drafnidiaeth hon fod yn achubiaeth i deithwyr, trwy gefnogi byw’n annibynnol, lleihau unigedd a gwella mynediad at wasanaethau. Bydd PACTO hefyd yn gweithio gyda Hwb Cymunedol Sir Benfro i ymgorffori cymorth teithio a meithrin hyder, sy’n hanfodol i alluogi pobl anabl i fyw’n annibynnol.
 
“Mae dyfarnu grantiau i sefydliadau lleol pwysig fel PACTO yn ein helpu i wneud gwahaniaeth uniongyrchol i anghenion trafnidiaeth pobl anabl.”

Dywedodd Caroline Wilson, Cadeirydd Ymddiriedolwyr PACTO “Mae hwn yn gyfle prin a chyffrous i’r sector CC yn Sir Benfro, ac rydym yn edrych ymlaen at wneud gwahaniaeth enfawr i bobl leol â phroblemau symudedd a rhannu’r gwersi a ddysgwn er budd y sector CC ehangach ar draws y DU. Hoffem ddiolch i Sefydliad Motability am eu cefnogaeth”.

Cyswllt y Wasg: Ady Poole, Rheolwr Cyffredinol, PACTO (ady@pacto.org.uk 07553 500400)

(Siaradwr Cymraeg a Saesneg)

 

 

PACTO

Sefydlwyd PACTO (Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro) yn 2004, i ddwyn ynghyd, cryfhau a chynrychioli’r sector trafnidiaeth gymunedol yn Sir Benfro. Rydym yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant.

Mae gwasanaethau Cludiant Cymunedol yn helpu pobl a grwpiau nad oes ganddynt fynediad at eu cludiant eu hunain ac nad oes ganddynt neu na allant ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus confensiynol.

Motability Foundation Logo

Am Sefydliad Motability. Mae Sefydliad Motability yn elusen gofrestredig a sefydlwyd ym 1977. Mae Sefydliad Motability yn ariannu, cefnogi, ymchwilio ac arloesi fel y gall pob person anabl wneud y teithiau o'u dewis. Rydym yn goruchwylio’r Cynllun Symudedd ac yn darparu grantiau i helpu pobl i’w ddefnyddio, gan ddarparu mynediad i drafnidiaeth i gannoedd o filoedd o bobl y flwyddyn. Rydym yn dyfarnu grantiau i elusennau a sefydliadau eraill sy'n darparu gwahanol fathau o gludiant, neu'n gweithio tuag at wneud trafnidiaeth yn hygyrch. Rydym hefyd yn cynnal ymchwil barhaus, mewn partneriaeth â phobl anabl a rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant, i ysbrydoli arloesiadau sy'n parhau i hyrwyddo trafnidiaeth hygyrch i bawb. Motability yn gweithredu fel Motability Foundation.

Share this page...

Current Volunteering Opportunities