Mae ‘Take Me Too!’ yn paru unigolyn sydd angen lifft, neu sydd eisiau rhannu lifft, gyda rhywun sy’n mynd i’r un cyfeiriad â nhw.
Mae ‘Take Me Too!’ ar gael i bawb yn Sir Benfro:
- sy’n ei chael hi’n anodd teithio oherwydd nad ydynt yn gallu gyrru, nid oes trafnidiaeth gyhoeddus neu dacsis ar gael, neu nid oes arian ganddynt;
- sydd eisiau gwneud gwell defnydd o deithiau car a wneir bob dydd yn Sir Benfro gyda seddi gwag;
- sydd eisiau adeiladu cymunedau â chysylltiadau gwell.
Mae rhannu teithiau yn fwy ecogyfeillgar, felly byddwch yn helpu’r blaned hefyd.
Am fwy o wybodaeth: www.takemetoo.org.uk
Mae PACTO yn rhedeg Take Me Too! gyda gymorth ariannol o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.