Angen gwirfoddolwyr ar frys!

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am yrwyr ceir a bysiau mini gwirfoddol a chyfeillion bws (na fydd yn gyrru) ar hyd a lled Sir Benfro.

Os gallwch chi neu rywun y gwyddoch amdanynt helpu, hyd yn oed os na allwch roi llawer o amser, ffoniwch ni neu anfonwch air atom – gallwn roi’r manylion i chi a gallwch weld a hoffech chi helpu. Cofiwch gysylltu â ni ar 01437 776550 neu hello@pacto.org.uk. Byddem yn gwerthfawrogi’ch help yn fawr!

 

Cyfeillion Bws

Gwasanaeth gwirfoddolwyr yw Cyfeillion Bws, sy’n helpu pobl ddefnyddio gwasanaethau Galw am Gludiant a Bws y Dref, cludiant cyhoeddus a gwasanaethau ceir cymunedol yn Sir Benfro. Bydd gwirfoddolwyr Cyfaill Bws PACTO yn gwneud pethau bach i wneud gwahaniaeth MAWR i helpu pobl ddod allan o’u cartrefi a siopa, cyrraedd apwyntiadau neu rannu paned mewn caffi.

Pe gallech roi help llaw i rywun sydd angen cymorth gyda defnyddio cludiant cyhoeddus neu gymunedol, gallwn helpu gyda hyfforddiant, costau teithio a chefnogaeth.

Efallai yr hoffech gyfarfod pobl, dod allan o’r tŷ, bod yn ddefnyddiol neu gael tipyn o hyfforddiant a phrofiad gwaith.

Ar hyn o bryd mae angen Cyfeillion Bws Gwirfoddol ledled Sir Benfro. Rydym yn awyddus arbennig i glywed oddi wrth wirfoddolwyr cyfaill bws yn ardaloedd Abergwaun ac Wdig, Dinbych-y-pysgod, Crymych a Phenfro / Doc Penfro.

 

Gyrwyr Ceir

Ein hangen mwyaf dybryd yw pobl i yrru ein ceir hygyrch i gadeiriau olwynion (sy’n seiliedig yn Hwlffordd a Doc Penfro). Bydd mwyafrif y gyrwyr yn ymrwymo i ddiwrnod rheolaidd bob wythnos neu bythefnos. Byddwn yn rhoi hyfforddiant ac yn ad-dalu treuliau.

Mae arnom angen gyrwyr hefyd sy’n barod i ddefnyddio’u ceir eu hunain. Y cyfan sydd ei angen yw car gydag yswiriant perthnasol, trwydded yrru safonol, rhywfaint o amser sbâr a dymuniad i helpu. Byddwch yn cael 45c y filltir o dreuliau.

Rydym yn gweithio’n agos gyda thri o gynlluniau lleol sydd angen gyrwyr ceir gwirfoddol ymhob rhan o Sir Benfro:

  • Y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, sy’n rhedeg Gwasanaeth Ceir Cefn Gwlad Sir Benfro i ddarparu cludiant ar gyfer siopa, apwyntiadau a theithiau hanfodol eraill ac i helpu gofalwyr digyflog gyda’u anghenion cludiant.
  • Volunteering Matters
  • Cyngor Sir Penfro, gyda thîm o yrwyr gwirfoddol yn cludo pobl ifanc i’r ysgol / cyswllt gyda rhieni / apwyntiadau ac yn ôl.

 

Gyrwyr Bysiau Mini

Mae arnom angen achlysurol a rheolaidd am bobl i yrru grwpiau cymunedol lleol. Bydd gofyn i chi gael asesiad gyrrwr bws mini (MiDAS). Mae gennym rai bysiau mini bach y gall gwirfoddolwyr eu gyrru gyda thrwydded car cyffredin (ond i chi fod wedi dal trwydded lawn am ddwy flynedd o leiaf). Lleolwyd bysiau mini mewn gwahanol fannau ledled Sir Benfro.

 

Trefnyddion Teithiau

Bydd trefnyddion teithiau’n cymryd archebion teithwyr a’u paru gyda gyrwyr gwirfoddol. Mae llawer o drefnyddion hefyd yn yrwyr gwirfoddol, ond nid yw hyn yn hanfodol oherwydd y gallwch wneud y gwaith hwn yng nghysur eich cartref eich hun! Mae’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn chwilio’n arbennig am drefnydd newydd Ceir Cefn Gwlad Sir Benfro yn ardal Abergwaun.

 

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r cyfleoedd hyn, cofiwch gysylltu â ni ar 01437 776550 neu hello@pacto.org.uk. Byddai eich help yn werth y byd i ni!

Share this page...

Current Volunteering Opportunities