Bachu Bws

Bachu Bws

 

Beth yw Bachu Bws?

Cynllun rhannu bysiau mini yw Bachu Bws a’i fwriad yw bodloni anghenion grwpiau cymunedol a hoffai fenthyca bysiau mini. Bydd tâl i’w dalu am y gost o redeg y bws.

Mae’r grwpiau hynny sy’n berchen ar fws mini yn gallu cynhyrchu incwm trwy ymuno â’r cynllun, a dodi eu bws hwy ar fenthyg pan nad yw e’n cael ei ddefnyddio.

Bydd Bachu Bws yn cynnig cludiant fforddiadwy i grwpiau sy’n dymuno defnyddio bws mini i deithio yn Sir Benfro neu ymhellach na hynny.

Ein bysiau mini

Mae gyda ni amrywiaeth o fysiau mini sydd wedi cael eu cofrestru â’r cynllun, gan gynnwys cerbydau hygyrch i gadair olwyn a bysiau mini bychan sy’n gallu cael eu gyrru gan wirfoddolwyr sydd â thrwydded gyffredin ar gyfer gyrru ceir. Mae’r bysiau mini ar gael mewn mannau ledled Sir Benfro.

Mae Bachu Bws ar gael i chi – mewn 2 chamrhwydd:

1. Gallwch chwilio am fws

2. Penderfynwch yn derfynol ar y trefniadau gyda Benthycwyr y Bysiau Mini.

Gyrwyr

Fel rheol byddwn yn disgwyl i grwpiau ddarparu eu gyrrwr eu hunain. Fel arfer bydd gofyn ichi ddewis ac enwi gyrrwr neilltuol pan fyddwch chi’n gwneud cais am gludiant. Mae’n rhaid i’r holl yrwyr feddu ar Dystysgrif MiDAS ddilys.

 

Os nad oes gyrrwr gan eich grwp yna mae gyda ni garfan fach o yrwyr gwirfoddol a allai fod yn fodlon rhoi help ichi.

Fyddech chi'n fodlon ymuno â'r gronfa hon? Os felly, ffoniwch Craig ar 07535 921528 neu ebost craig@pacto.org.uk er mwyn gwybod mwy.

 

 

Y Print Mân

 

Prynu eich bws mini eich hun

 

Share this page...

Current Volunteering Opportunities