Croeso nôl i wasanaethau trafnidiaeth gymunedol Sir Benfro

Bws Bloomfield  Cyfarpar creu anwedd arbenigol   Gwasanaeth Fflecsi

Mae gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn barod i groesawu teithwyr yn ôl yn ddiogel i wasanaethau ledled Sir Benfro, wrth i'r cyfyngiadau symud a theithio oherwydd COVID-19 gael eu codi dros yr wythnosau nesaf.

Mae grantiau gwerth cyfanswm o £38,000 wrth Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro1 a Llywodraeth Cymru2 wedi darparu cyfarpar diogelu personol i staff a gyrwyr gwirfoddol, cyfarpar creu anwedd arbenigol i sicrhau bod modd glanhau cerbydau yn gyflym ac yn effeithiol rhwng gwasanaethau, a chyllid i wella gwasanaethau ‘Galw am Fws’ i ddiwallu anghenion teithwyr tra bo gofynion cadw pellter cymdeithasol yn parhau.   

Dywedodd Debbie Johnson o Gymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro (PACTO), "Os ydych yn bryderus am fynd allan yn dilyn y cyfyngiadau symud, mae gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol Sir Benfro yma i'ch helpu.  Mae gennym fwy o fesurau diogelwch COVID-19 ar waith, rydym yn cludo niferoedd bach o deithwyr wrth gadw pellter cymdeithasol, a byddwn yn sicrhau bod gennych sedd ar gyfer eich siwrnai allan ac yn ôl."  

Mae gwasanaethau'n cynnwys gwasanaethau drws i ddrws ‘Gwasanaeth y Dref’ ym mhob un o brif drefi Sir Benfro ac Aberteifi, a weithredir gan Ddraig Werdd Preseli, yn ogystal â gwasanaethau Galw am Fws gwledig a hyblyg yn yr ardaloedd o gwmpas Arberth (Bws Bloomfield) a Mynydd Preseli (y Ddraig Werdd), a'r gwasanaeth Fflecsi newydd sy'n gweithredu ledled gogledd-orllewin Sir Benfro a Phenrhyn Dewi (Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro).   

Mae gwasanaeth Ceir Gwledig Sir Benfro, a weithredir gan wirfoddolwyr o'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, yn parhau i helpu pobl gyda siwrneiau siopa hanfodol, a siwrneiau i apwyntiadau meddygol, fel y maent wedi gwneud trwy gydol y pandemig.

Gall Bydis Bws PACTO ddarparu cymorth a chyngor ychwanegol i unrhyw un sydd angen help i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu gymunedol, neu sy'n bryderus am fynd allan eto. 

Dywedodd Mrs McCanch, un o deithwyr bysiau’r Ddraig Werdd, "Mae'n wych cael mynd allan eto a dewis siopa fy hun yn lle gorfod dibynnu ar wirfoddolwyr a'r teulu (nid bod nhw ddim yn dda ond rydych yn gwybod beth ydw i'n ei olygu)! Mae'n gyfle i gofio sut roedd y byd 'normal' yn teimlo. Ni allwn fod am fyw heb y bws cymunedol. Diolch i bawb."

Am fwy o wybodaeth am yr holl wasanaethau hyn, ewch i http://www.pacto.org.uk/index_cym.php, e-bostiwch busbuddies@pacto.org.uk neu ffoniwch 01437 770119. 

 

Nodiadau i'r golygyddion

  1. Cyllid gan Gronfa Cefnogi Gweithredu Cymunedol Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro.
  2. Darparwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol, a gydlynwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

 

Penawdau lluniau:

  1. Dewch ar Fws Bloomfield, sydd wedi cael sgrin gyrrwr wedi'i dylunio'n arbennig
  2. Cyfarpar creu anwedd arbenigol yn cael ei ddefnyddio i ddiheintio bws mini cymunedol Draig Werdd rhwng gwasanaethau
  3. Mae'r gwasanaeth Fflecsi yn barod i'ch helpu i deithio o gwmpas gogledd-orllewin Sir Benfro yn ddiogel

Share this page...

Cyfleoedd Gwirfoddoli ar hyn o bryd