Cynllun Ymwybyddiaeth Gyrwyr Bysiau Mini (MiDAS)

Beth yw MiDAS?

Safon a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer asesu a hyfforddi gyrwyr bysiau mini yw Cynllun Ymwybyddiaeth Gyrwyr Bysiau Mini (MiDAS). Caiff ei chydlynu gan Gymdeithas Cludiant Cymunedol y DU. Ei nod yw gwella safonau gyrru bysiau mini a chymell gyrwyr I weithredu bysiau mini yn ddiogelach.

MiDAS yw’r safon a ddisgwylir gan bob gyrrwr sy’n gyrru bysiau mini Cymdeithas Sefydliadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro (PACTO), bysiau mini Addysg Gymunedol a bysiau mini eraill Cyngor Sir Penfro sydd ar gael i’w defnyddio mewn cymunedau.

Byddwn hefyd yn asesu gyrwyr ar gyfer grwpiau sy’n defnyddio bysiau mini eraill, neu sydd â bysiau mini eu hunain.


Beth sy’n digwydd mewn asesiad MiDAS?

I ddechrau fe gewch sesiwn theori a thrafod ac yna taflen gwestiynau amlddewis ynghylch y pynciau y buom yn sôn amdanynt. Yna byddwch yn cwpla sesiwn ymarferol, yn cynnwys gyrru a chael eich asesu, fel arfer ar ddyddiad gwahanol.

Byddwch yn cael asesiad gyrru MiDAS - ond nid prawf ydyw. Byddwn yn rhoi ichi’r cyfarwyddyd y mae arnoch ei angen ac ni chewch yrru bws ar eich pen eich hun HYD NES BYDDWCH yn teimlo’n berffaith hapus ynghylch y cerbyd, offer a’r safon ofynnol. Ar ôl llwyddo i gwblhau’r ddwy sesiwn hyn, byddwch yn cael tystysgrif, sy’n ddilys am 4 blynedd. Caiff hyfforddiant mewn llwytho a sicrhau cadeiriau olwynion ei gynnwys, os oes angen. Mae asesiad safonol (anhygyrch) ar gael i yrwyr na fyddant yn cludo defnyddwyr cadeiriau olwyn nac yn defnyddio’r lifft yn y cefn chwaith.

Costau

Bydd yn rhaid talu £60 am yr asesiad, sy’n cynnwys llawlyfr hyfforddi a’ch tystysgrif.

 

 

Er mwyn cadw lle i chi’ch hun ar asesiad MiDAS
neu am ragor o wybodaeth, byddwch cystal â ffonio
Craig ar 07535 921528 neu e-bost craig@pacto.org.uk

 

Share this page...

Current Volunteering Opportunities