Ynglŷn â PACTO

Sefydlwyd Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro (PACTO) yn 2004, i gasglu at ei gilydd, cryfhau a chynrychioli'r sector cludiant cymunedol yn Sir Benfro.

Mae'r Gwasanaethau Cludiant Cymunedol yn cynorthwyo pobl a grwpiau nad ydynt yn cael y cyfle i ddefnyddio cludiant personol ac sydd heb neu'n methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus arferol.

Ymhlith aelodau gweithgar PACTO mae:

 

Blaenoriaethau

Yn ein cynllun gwaith cyfredol mae’r blaenoriaethau canlynol:

- Cyflawni rhwydwaith cynhwysfawr a chynaliadwy o gyfleusterau cludiant cymunedol fforddiadwy ac o safon, o fewn cyrraedd pawb, sy’n adnabyddus ac sydd a defnydd mawr arno gan bobl Sir Benfro.

- Galluogi i aelodau mwyaf oedrannus, anabl ac arunig ein cymuned gyrraedd gwasanaethau a chyfleoedd.

- Creu trefn i hwyluso rhannu lifftiau ledled Sir Benfro wledig, gan leihau costau perchenogion ceir a rhoi mynediad at wasanaethau, gweithgareddau a chyfleoedd i gymunedau, ddydd a nos, a fyddai allan o gyrraedd fel arall.

- Darparu cludiant o’r ysbyty a setlo gartref, i bobl sydd mewn perygl o fynd i’r ysbyty oherwydd nad oes ganddynt unrhyw ffordd o fynd adref.

 

Am ragor o wybodaeth, byddwch cystal â chysylltu â'r Swyddog Datblygu Cludiant Cymunedol:

Ffôn: 01437 701123.

 

 

 

Share this page...

Current Volunteering Opportunities