Swydd: Cynorthwyydd Prosiect Take Me Too!
Beth am fod yn rhan o'r prosiect cyffrous hwn i ddathblygu a hyrwyddo rhannu lifft yn Sir Benfro.
Gweithio Gartref. £9.62/awr.
15-20 awr yr wythnos, dros 5 diwrnod yn ddelfrydol. Oriau gwaith i'w cytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus.
Bydd disgwyl i'r cynorthwyydd gymryd rhan mewn rota ar alwad dros y penwythnos (£30/penwythnos).
Contract cyfnod penodol 6 mis i gychwyn (dros gyfnod mamolaeth) gyda'r posibilrwydd i ymestyn am 18 mis ychwanegol.
Bydd gennych brofiad o wasanaeth cwsmeriaid a byddwch yn gallu defnyddio systemau TG a chyfryngau cymdeithasol yn hyderus. Nid yw profiad blaenorol o’r sector trafnidiaeth yn hanfodol.
Cliciwch yma am y Swydd Ddisgrifiad
Cliciwch yma am wybodaeth am prosiect Take Me Too!
I wneud cais, anfonwch eich CV â llythyr esboniadol at debbie@pacto.org.uk
Dyddiad Cau: 5 p.m., Dydd Llun, 13 Medi 2021.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar ddydd Mawrth, 21 Medi 2021, yn Arberth.
Ariennir y swydd hon gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.