Hafan  |  
  Gwasanaethau  |  
  Cysylltu â Ni   |  
  Adnoddau   |  

 

Galw am Fws Llandudoch

Ar gael ar ddyddiau Iau o 10.00 y bore ymlaen

Os oes gyda chi Gerdyn Teithio Rhatach yna cewch deithio AM DDIM Neu gallwch dalu’r pris teithio llawn os nad oes cerdyn teithio ’da chi.

Gall pawb na allant deithio ar fysiau cludiant cyhoeddus - am ba reswm bynnag – deithio ar y bysiau hyn.


Sut i fynd ar siwrnai?

Archebwch a chadw lle trwy ffonio rhadffôn 0845 686 0242, hyd at wythnos ymlaen llaw. Rhaid rhoi’r siwrneiau ar gadw erbyn 12 o’r gloch ar y diwrnod cyn y byddwch eisiau teithio. Ceisiwch fod mor hyblyg ag y bo modd ynghylch yr amser y byddwch yn dymuno teithio.

Fe ddown i’ch mo’yn o’ch cartref ar yr amser a gytunwyd. Rydym yndefnyddio cerbyd y gall cadeiriau olwyn fynd arno, ac mae ein gyrrwr wrth law i roi cymorth i deithwyr pan maent yn mynd.

Nid oes llwybr nac amserlen benodol: gallwn eich danfon a dod â chi’n ôl ar amser o’ch dewis, i unrhyw fan yn yr ardal:


Llandudoch
Cippyn
Poppit
Glanrhyd
Bridell
Trewyddel

Os nad yw’ch pentref wedi’i nodi uchod byddwch cystal â ffonio swyddfa bws y Ddraig Werdd:
0845 686 0242

 

Share this page...

Current Volunteering Opportunities