Home  |  
  Services  |  
  Contact us   |  
  Resources   |  
  Search

 

PIVOT

Tîm Sefydliadau Gwirfoddol Canolraddol Sir Benfro

Sefydliadau Gwirfoddol yn Sir Benfro yn gweithio gyda’i gilydd Atal derbyniadau amhriodol i’r ysbyty a lleihau’r cymorth sydd ei angen gan asiantaethau statudol.


Partneriaid Gwirfoddol

Mae gan bartneriaid PIVOT lawer o flynyddoedd o brofiad o roi cymorth sy’n meithrin hyder a hunan-barch sy’n fodd i bobl fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae PIVOT yn darparu cymorth lefel isel yn y cartref am hyd at chwe wythnos i bobl:

  • Mewn perygl o gael eu derbyn i’r ysbyty am resymau nad ydynt yn feddygol ac sydd un ai heb drafnidiaeth i fynd adref ac/neu heb deulu na chyfeillion i’w cynorthwyo pan fyddant yn mynd adref.

  • A fyddai’n elwa ar gymorth atal ac ailalluogi lefel isel.


Pwy sy’n gallu atgyfeirio?

Rydym yn croesawu atgyfeiriadau gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, meddygfeydd a sefydliadau eraill yn y trydydd sector, fel broceriaid yn y sector gwirfoddol. Ffôn:
07969 881 985 7 diwrnod yr wythnos o 9 am tan 10 pm (cais olaf am drafnidiaeth - 8pm).


Sut?

Bydd PIVOT yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu cynllun gweithredu sy’n canolbwyntio ar unigolion er mwyn cyflawni canlyniadau a gytunir a fydd yn gwneud gwahaniaeth o ddifrif. Mae hyn yn cynnwys Mentrau Diogel ac Iach fel:

  • Trafnidiaeth a setlo yn y cartref ar gyfer pobl sydd mewn perygl o gael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd nad oes modd gyda nhw i fynd adref. (Nid yw hyn yn cynnwys gofal personol).

  • Cyfeirio, eiriolaeth lefel isel ac atgyfeirio at asiantaethau priodol er mwyn cael rhagor o gymorth a chefnogaeth yn cynnwys gwasanaethau eraill trydydd sector, iechyd a statudol.

  • Gallu defnyddio gwasanaeth ymateb cyflym ar gyfer addasiadau bach yn y cartref a gwiriadau diogelwch yn y cartref.

 

 

Share this page...

Current Volunteering Opportunities