Ceir Gwledig Sir Benfro

Mae Ceir Gwledig Royal Voluntary Service yn darparu cludiant ar gyfer siwrneiau i bobl nad ydynt yn gallu mynd i ben eu siwrnai mewn unrhyw fordd arall. Caiff y cynllun ei gynnal gyda gyrwyr gwirfoddol sy’n defnyddio eu car eu hunain.

Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn? Unrhyw berson sy’n byw yn Sir Benfro nad yw’n gallu defnyddio car neu drafnidiaeth gyhoeddus. Rhaid i oedolyn deithio gyda phlant.

Pryd mae’r gwasanaeth ar gael? Bob dydd yn ystod yr wythnos - a rhai penwythnosau, os oes gyrrwr ar gael.

Ymhle fydda i’n cael fy nghodi? Ble bynnag y mynnwch! e.e. o’ch cartref, o’ch meddygfa leol, o’r orsaf drenau.

Ble alla i fynd? O fewn radiws o 40 milltir, unrhyw le ac eithrio apwyntiadau ymgynghorydd un yr ysbytu.

Allwch chi fynd â’m cadair olwyn? Gallwn fynd â chwsmeriaid yn eu cadair olwyn yn un o gerbyd hygyrch sydd gennym.

Beth yw'r gost? Mae prisiau yn cyfateb yn fras i brisiau teithio ar fysiau cyhoeddus.

Alla i ddefnyddio fy hawleb bws? Gallwch, mae'n golygu y gallwch deithio am hanner pris.

 

 

Er mwyn cael eich rhif ffôn lleol, ffoniwch rhadffôn


0800 783 1584

Fe gewch rif ffôn lleol i’w ffonio bob tro y mae angen car arnoch.
Dylech roi o leiaf 48 awr o rybudd os oes modd.

 

 

Gwneud taith mewr cerbyd hygyrch

 

Gwirfoddoli

 

Share this page...

Current Volunteering Opportunities